Casglu a Defnyddio Data
Mae’r Blaid Geidwadol yn ceisio cyflawni safonau ‘P3P’ (y Prosiect Llwyfan i Ddewisiadau Preifatrwydd’) o ran preifatrwydd data. Ni yw unig berchnogion unrhyw wybodaeth y byddwn yn ei chasglu. Ni fyddwn fyth yn gwerthu, rhannu, neu rentu’r wybodaeth hon heblaw ein bod yn datgelu’r ffaith gyntaf yn y datganiad preifatrwydd hwn. Mae gennym naw ffordd wahanol o gasglu data. Cofrestru â’r Wefan
Rydym yn casglu’ch enw a’ch gwybodaeth gyswllt (gan gynnwys cyfeiriadau post ac e-bost). Yn ôl eich dewis chi, efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am eich rhyw a’ch dyddiad geni. Defnyddir y wybodaeth hon ar gyfer addasu’r wefan a chysylltu ag ymwelwyr (gallwch ddewis peidio â gwneud hyn). Ni a’n hasiantau fydd yn defnyddio’r data hwn.
Rhoi’r Wybodaeth Ddiweddaraf i Chi
Rydym yn gofyn am eich enw, cod post a chyfeiriad e-bost os ydych yn tanysgrifio i’n cylchlythyrau e-bost, Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i gysylltu â chi ynglŷn â conservatives.com ac i roi gwybod i chi beth mae’r Ceidwadwyr yn ei wneud ledled y wlad.
Ymuno a Chyfrannu
Yn ogystal â’r wybodaeth a gesglir wrth i chi gofrestru â’r wefan, rydym angen gwybodaeth ychwanegol os ydych am gyfrannu arian neu ymuno. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth wrth dalu (fel rhif a dyddiad dirwyn i ben eich cerdyn credyd) a gwybodaeth bersonol y mae’n rhaid i ni ei chasglu i gydymffurfio â chodau ymddygiad cyfreithiol a gwirfoddol (fel yr etholaeth lle’r ydych chi wedi’ch cofrestru i bleidleisio). Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddadansoddi defnyddwyr, proffilio defnyddwyr a chysylltu ag ymwelwyr.
Os ydych yn cyfrannu mwy na £7,500 i’r Blaid drwy’r wefan, mae’n rhaid ni o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 roi gwybod am rodd o’r fath i’r Comisiwn Etholiadol, a fydd yn cyhoeddi’r ffaith eich bod wedi gwneud rhodd o dros £7,500. Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.electoralcommission.gov.uk. O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) mae’n rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol yn y DU ac eithrio Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw er mwyn gwneud rhodd sy’n fwy na £500.
Gwirfoddoli
Rydym yn gofyn am eich cyfeiriad post a’r dewis o ran gwirfoddoli. Byddwn ni a’r Gymdeithas Geidwadol leol yn defnyddio’r wybodaeth hon.
Anfon at Ffrind
Os ydych chi’n dewis, gallwn ddweud wrth ffrind am ein gwefan – neu hyd yn oed dudalen benodol yn ôl eich dymuniad. I wneud hyn, mae angen i ni ofyn am enw a chyfeiriad e-bost eich ffrind. Byddwn yn anfon un neges e-bost at eich ffrind yn ei wahodd i ymweld â’r wefan neu’r dudalen benodol. Ni fyddwn yn cadw’r wybodaeth hon. Bydd eich cyfeirid Protocol Rhyngrwyd (IP) yn cael ei gynnwys yn y neges e-bost er mwyn gallu adnabod anfonwr gwreiddiol y neges os yw’r derbynnydd angen gwneud hynny.
Adborth a Sylwadau
I anfon neges drwy ddefnyddio’n ffurflenni adborth, byddwn yn casglu’ch enw, cyfeiriad e-bost a sylwadau. Os ydych chi’n dewis, efallai y byddwn hefyd yn gofyn am eich cod post. Byddwn ni a’n hasiantau’n defnyddio’r data hwn i gysylltu â chi.
Arolygon Ar-lein
Os ydych am gymryd rhan mewn arolwg barn neu arolwg arall ar-lein, rydym yn gofyn am eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP) yn ogystal â’ch atebion. Byddwn ni a’n hasiantau’n defnyddio’r data hwn i ddilysu’r canlyniadau ac i geisio atal nifer o atebion gan yr un unigolion. Yn ogystal â hyn, byddwn yn gosod cwci ar eich system ar ôl i chi gymryd rhan mewn arolwg. Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei storio yn y cwci hwn.
Ffeiliau Log ac Ystadegau
Rydym yn defnyddio cyfeiriadau IP, URI adnoddau y gofynnir amdanynt, stampiau amser ac asiantau-defnyddwyr HTTP i ddadansoddi tueddiadau, gweinyddu’r system a chasglu gwybodaeth ddemograffig eang at ddefnydd cyfanredol. Yn ogystal â hyn, rydym yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddol ar y we a ddarperir gan Google, Inc (“Google”). Mae Google Analytical yn defnyddio cwcis i ddadansoddi sut mae ymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Bydd y wybodaeth a gynhyrchir gan y cwcis am y defnydd o’n gwefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo i a’i chadw gan Google ar weinyddion yn yr Unol Daleithiau. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i werthuso’ch defnydd o’n gwefan, gan lunio adroddiadau ar weithgarwch gwefan ar gyfer y Blaid Geidwadol a darparu gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â gweithgarwch ar y we a’r defnydd o’r Rhyngrwyd. Efallai y bydd Google hefyd yn trosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti os yw’n ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith, neu os yw trydydd parti o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu’ch cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall sydd ym meddiant Google. Gallwch wrthod y defnydd o gwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol at eich porwr gwe, ond cofiwch na fyddwch yn gallu defnyddio’n gwefan yn llawn os byddwch yn gwneud hyn. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn y ffordd ac at y dibenion a nodir uchod.
Cwcis
Technoleg yw cwcis y gellir ei defnyddio i ddarparu gwybodaeth benodol i chi o wefan. Mae cwci yn elfen o ddata y gall gwefan ei hanfon i’ch porwr, y gellir ei storio wedyn yn eich system. Gallwch osod eich porwr i’ch hysbysu pan fyddwch yn derbyn cwci, gan roi’r cyfle i chi benderfynu a ydych am ei derbyn.
Mae’n gwefan yn defnyddio cwcis. Defnyddir cwcis at y dibenion canlynol:
• Gweinyddu’r wefan
• Addasu’r wefan
• Targedu defnyddwyr
• Cysylltu â defnyddwyr
• Dadansoddi defnyddwyr
• Arolygon ar-lein
• Dolenni
Mae’n gwefan yn cysylltu â gwefannau eraill, ond byddwn yn ceisio’ch rhybuddio bob tro y bydd hyn yn digwydd. Noder nad ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd gwefannau eraill: gofalwch eich bod yn darllen eu datganiadau preifatrwydd os ydych chi’n pryderu am y wybodaeth y maent yn ei chasglu amdanoch chi. Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’n gwefan ni yn unig.
Diogelwch
Rydym yn cymryd pob cam posibl i ddiogelu’ch manylion. Pan fyddwch yn cyflwyno gwybodaeth sensitif drwy’r wefan, mae’n ddiogel pan fydd ar ei ffordd atom ac ar ôl i ni ei derbyn. Er enghraifft, mae’n ffurflenni ymaelodi a rhoddi’n amgryptio rhif eich cerdyn credyd drwy ddefnyddio technoleg amgryptio o’r enw ‘haenau socedi diogel’ neu SSL. Os ydych yn defnyddio Netscape Navigator neu Internet Explorer, gallwch ddweud a yw’r dudalen yn ddiogel drwy wirio a oes clo wedi’i gloi neu allwedd ar ochr dde’ch porwr. Bydd URL y dudalen rydych yn edrych arni hefyd yn dechrau gyda https://.
Rydym hefyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu’ch gwybodaeth ar ôl ei derbyn. Gall ein staff weld eich manylion dim ond os oes ganddynt waith penodol i’w wneud, fel ymdrin ag ymholiad am ymaelodi. Mae’n rhaid iddynt hefyd gael gwybod y wybodaeth ddiweddaraf am ein harferion diogelwch a phreifatrwydd.
Yn olaf, cedwir gweinyddion sy’n storio gwybodaeth adnabod personol mewn amgylchedd diogel. Ategu Gwybodaeth
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau i’ch diogelu rhag twyll yn ddifrifol iawn. I gyflawni’r rhwymedigaeth hon, o bryd i’w gilydd mae’n rhaid i ni ddarparu gwybodaeth gan ffynonellau trydydd parti i ategu’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni - er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un arall yn defnyddio’ch cerdyn credyd fel arfer. Nid ydym yn cadw’r wybodaeth hon yn hirach nag sy’n rhaid i ni.
Cywiro/Diweddaru Gwybodaeth
Rydym yn cydnabod y gall manylion fel eich cod post neu gyfeiriad e-bost newid. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gallwch newid y wybodaeth sydd gennym amdanoch.
Dewis/Eithrio
Byddwch bob amser yn gallu dewis peidio â chaniatáu i ni ddefnyddio’ch gwybodaeth at unrhyw ddiben ac eithrio’r diben sy’n gysylltiedig yn benodol â’r dudalen lle byddwn yn gofyn amdani. Mae gan ein ffurflen ymaelodi, er enghraifft, fecanwaith eithrio er mwyn i chi allu ymuno ar-lein heb danysgrifio i’n rhestr e-bost.
Rydym yn cydnabod y gall manylion fel eich cod post neu gyfeiriad e-bost newid. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gallwch newid y wybodaeth sydd gennym amdanoch.
Hysbysu am Newidiadau
Os byddwn yn newid ein polisi preifatrwydd, byddwn yn gosod dolen i’r newidiadau hynny ar ein hafan fel eich bod yn gwybod pa wybodaeth a gesglir, sut byddwn yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei datgelu.
Pan fyddwn yn casglu gwybodaeth gennych chi, byddwn yn dweud wrthych beth ydym yn bwriadu ei wneud gyda’r wybodaeth honno; os ydym am ddefnyddio’r wybodaeth yn ddiweddarach at ddiben arall, byddwn yn anfon e-bost atoch gyntaf yn nodi’n bwriad – a’ch dewis chi fydd a ydym yn gwneud hynny ai peidio.

