Syndicetiau newyddion a phorthiant RSS
Gallwch ddarllen y newyddion diweddaraf o’n gwefan a chan y Blaid Geidwadol drwy ddefnyddio’ch darllenydd newyddion neu eu harddangos ar eich gwefan eich hun drwy ddefnyddio dogfennau XML RSS (Crynodeb Safle Rich) pryd bynnag y byddwch yn gweld symbol oren RRS.
Beth yw RSS?
Safon XML yw RSS a ddyfeisiwyd gan Netscape i ddosbarthu newyddion, ond sydd bellach wedi’i mabwysiadu gan filoedd o wefannau. Fformat agored yw RSS sy’n defnyddio set syml o dagiau XML i ddiffinio “sianel” newyddion sy’n galluogi unrhyw wefan ddarparu meta-wybodaeth sylfaenol am eich cynnwys newydd (pennawd, dolen, disgrifiad).
Sut mae tanysgrifio i’n porthiant RSS?
Gallwch danysgrifio i borthiant newyddion RSS gyda’r porwyr gwe Internet Explorer 7 a Firefox heb fod angen unrhyw feddalwedd arall.
Internet Explorer 7
Yn Internet Explorer 7, mae dwy ffordd o danysgrifio. Y cyntaf yw pan fyddwch yn ymweld ag unrhyw dudalen ar ein gwefan bydd yr eicon porthiant oren yn goleuo ar y bar offer a gallwch glicio ar ein porthiant newyddion i’w weld.
Yr ail ffordd yw drwy glicio ar yr url porthiant RSS i’w weld yn uniongyrchol. Yn y bocs melyn ar y brig wedyn gallwch glicio ar y ddolen ‘Subscribe to this Feed’. Pan fyddwch am wylio’r porthiant, ewch i ‘Favourites Center’ drwy glicio ar y seren ar ochr chwith uchaf y bar gwe-lywio.
Mozilla Firefox
Yn Firefox, gallwch danysgrifio drwy glicio ar yr eicon porthiant ar ochr dde uchaf y bar cyfeiriadau. Yna, bydd y porthiant yn ymddangos. Os ydych am danysgrifio drwy ddefnyddio ‘live bookmarks’ Firefox, dewiswch ‘live bookmarks’ ac yna cliciwch ar ‘Subscribe Now’.
Bydd bocs yn ymddangos sy’n gofyn i chi gadw eich ‘live bookmark’. Os ydych yn cadw hwn yn eich ‘Bookmarks Toolbar Folder’ bydd yn ymddangos ar eich bar offer a’r cwbl y bydd yn rhaid i chi ei wneud yw clicio ar yr eicon newydd i ddarllen y porthiant newyddion.
Gofynion Defnyddio
Gall unrhyw un ddefnyddio’r porthiant newyddion RSS o Conservatives.com yn unol ag amodau defnyddio Conservatives.com.
Ni allwn ddarparu cyngor neu gymorth technegol ynglŷn â chodio ac integreiddio’n porthiant newyddion i’ch gwefan neu feddalwedd.
Hefyd, gofynnwn i chi storio’r porthiant RSS a pheidio â gwneud ymholiadau fwy nag unwaith yr awr.
Gofynnwn i chi beidio â defnyddio’r straeon testun llawn os na chaniateir i chi wneud o dan ein hamodau defnyddio. Pryd bynnag y byddwch yn defnyddio porthiant RSS yn gyhoeddus (pan fydd unrhyw un ar wahân i chi yn eu darllen), dylech roi cydnabyddiaeth briodol i’r Blaid Geidwadol. Rydym yn darparu graffigyn bychan ar gyfer cysylltu’n ôl â’n gwefan ym mhob porthiant at y diben hwn. Mae Conservatives.com yn cadw’r hawl i ofyn i chi roi’r gorau i ddosbarthu cynnwys newyddion Conservatives.com ar unrhyw adeg am unrhyw reswm.
Podlediadau
Rydym hefyd yn cynnig Podlediadau. I ychwanegu podlediad Conservatives.com at eich iTunes, cliciwch ar yr eicon Podlediad i gael eich tywys yn syth i iTunes, neu copïwch yr (uwch) ddolen i’ch bwrdd clicio. Yn eich cymhwysiad iTunes, dewiswch y ddewislen ADVANCED, Subscribe to Podcast, a theipiwch y cyfeiriad yma a chlicio OK.
Nid yw’r Blaid Geidwadol yn gyfrifol am, nac yn cymeradwyo cynnwys y Wefan yr ydych yn cysylltu â hi o reidrwydd.

